You are using the web browser we don't support. Please upgrade or use a different browser to improve your experience.
"icon arrow top"

CLERC Y CYNGOR New

407167

Ad Warrior Ltd

Market related

Ystradgynlais, Powys, Wales

Public Sector

Permanent | Full Time

ASAP

02/05/2025

30/05/2025

CLERC Y CYNGOR

Ystradgynlais

£46,731 i £50,788 yf

Mae Cyngor Ystradgynlais wedi ymrwymo i wasanaethu pobl y dref trwy ddarparu cyfleusterau hanfodol a meithrin datblygiad cymunedol a llesiant ein trigolion. Ni yw'r ail dref fwyaf yn SirPowys, ac yn ogystal â'n treftadaeth ddiwydiannol, fe'n gwelir erbyn hyn yn borth deheuol i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy'n golygu fod yr ardal o'n cwmpas yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac ymwelwyr dydd. Mae gan y Cyngor Tref 16 cynghorydd etholedig a thri aelod o staff, yn cynrychioli tua 6,500 o etholwyr, a gwariant blynyddol o tua £500,000.

Wrth inni gynnal ein hymrwymiad i lesiant y gymuned, rydym yn falch o gyhoeddi cyfle i weithiwr proffesiynol ymroddedig ymuno â'r Cyngor yn Glerc y Cyngor.

Gan weithio o swyddfeydd y Cyngor Tref, bydd angen i ymgeisyddion arddangos casgliad deinamig o sgiliau, a'r gallu i feddwl a gweithredu'n strategol, ynghyd â meddu ar brofiad o reolaeth weinyddol mewn amgylchedd cymhleth. Bydd angen ichi allu deall cyfraith a gweithdrefnau llywodraeth leol, meddu ar wybodaeth ariannol gadarn a phrofiad o fod yn rheolydd llinell ar staff. Bydd angen hefyd ichi allu cynrychioli'r Cyngor mewn trafodaethau gyda chyrff allanol. Mae sgiliau TG 'Office' medrus yn hanfodol hefyd.

Byddwch yn atebol i'r Cyngor yn gyfan, ac yn gweithredu'n brif ymgynghorydd ar bob mater yn ymwneud â llywodraethiant er mwyn iddo allu cyflawni ei gyfrifoldebau statudol. Byddwch yn chwarae rôl allweddol yn cynghori a chefnogi llunio polisïau, a gofalu fod penderfyniadau'r Cyngor yn cael eu gweithredu'n effeithiol.

Mae disgwyl y bydd gennych, neu y byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol priodol (Tystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol neu gymhwyster cyfatebol). Mae disgwyl hefyd y byddwch yn ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Bydd disgwyl hefyd ichi fynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda'r nos ac ambell benwythnos yn ôl y galw. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol.

Er mwyn cael rhagor o fanylion am y swydd gan gynnwys y disgrifiad swydd, manyleb berson a ffurflen gais, ewch i'n gwefan yn: https://www.onevoicewales.wales/opportunities-and-engaging-with-one-voice-wales/vacancies/

Ni dderbynnir dogfennau CV .

DYDDIAD CAU: Canol nos ar y 23ain Mai 2025

Mae Cyngor Tref Ystradgynlais yn Gyflogydd Cyfleoedd Cyfartal ac mae'n croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned